Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 54(4)(c) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU DRAFFT
2015 Rhif (Cy. )
LLESIANT, CYMRU
Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Darpariaethau Canlyniadol) 2015
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaethau canlyniadol mewn perthynas â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”).
Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag adran 15 o’r Ddeddf (yr egwyddor datblygu cynaliadwy: ymchwiliadau’r Archwilydd Cyffredinol) sy’n diffinio’r cyfnod adrodd ar gyfer ymchwiliadau Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae’r adran hon i fod i ddod i rym lai na blwyddyn cyn etholiad cyffredinol arferol nesaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Felly, efallai bod amheuaeth ynghylch pryd y mae’r cyfnod adrodd cyntaf a ddisgrifir yn is-adran (6) o adran 15 i ddechrau. Mae’r rheoliad hwn felly yn addasu adran 15(6)(a) i’w gwneud yn glir bod y cyfnod adrodd cyntaf o dan yr adran hon yn dechrau fis cyn yr etholiad nesaf (yn ymarferol 5 Ebrill 2016 fydd hyn).
Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru (“y Comisiynydd”) mewn cysylltiad â’r amcangyfrifon o incwm a gwariant ar gyfer blwyddyn ariannol 2016-2017. Mae paragraff 19 o Atodlen 2 i’r Ddeddf yn darparu bod rhaid i’r Comisiynydd, ar gyfer pob blwyddyn ariannol ac eithrio’r un gyntaf, lunio amcangyfrif o incwm a gwariant y Comisiynydd a’i staff. Yn unol â pharagraff 19(2) o Atodlen 2 i’r Ddeddf, mae’n ofynnol i’r Comisiynydd gyflwyno’r amcangyfrif i Weinidogion Cymru o leiaf bum mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi.
O gofio’r cyfnod amser ar gyfer penodi’r Comisiynydd, mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ganlyniadol sy’n addasu paragraff 19(2) o Atodlen 2 i’r Ddeddf fel bod rhaid i’r Comisiynydd, ar gyfer blwyddyn ariannol 2016-2017 yn unig, gyflwyno’r amcangyfrif dri mis ar ôl ei benodiad gan Weinidogion Cymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 54(4)(c) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU DRAFFT
2015 Rhif (Cy. )
LLESIANT, CYMRU
Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Darpariaethau Canlyniadol) 2015
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 53(1) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015([1]).
Yn unol ag adran 54(4)(c) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Llesiant
Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Darpariaethau
Canlyniadol) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Tachwedd 2015.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Darpariaeth ganlyniadol mewn perthynas â’r cyfnod cyntaf y mae rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gynnal ymchwiliadau o’i fewn o dan adran 15 o’r Ddeddf
3. Er gwaethaf adran 15(6)(a) o’r Ddeddf, mae’r cyfnod cyntaf y cyfeirir ato yn is-adrannau (2) a (3) o adran 15 yn dechrau ar y dyddiad sy’n digwydd fis cyn y dyddiad y mae etholiad cyffredinol arferol i’w gynnal o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006([2]).
Darpariaeth ganlyniadol mewn perthynas â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru: Amcangyfrif incwm a gwariant 2016-2017
4. At ddibenion y flwyddyn ariannol sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2017, mae paragraff 19(2) o Atodlen 2 i’r Ddeddf i’w ddarllen fel pe bai “heb fod yn hwyrach na thri mis ar ôl penodiad y Comisiynydd o dan adran 17(2)” wedi ei roi yn lle “o leiaf bum mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi”.
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru